Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 4 Mawrth 2015 i'w hateb ar 11 Mawrth 2015

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i'r Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

1. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru):Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod unrhyw wariant ychwanegol yn ystod y flwyddyn yn cynnig gwerth am arian? OAQ(4)0528(FIN)

2. Sandy Mewies (Delyn): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd tuag at ddatblygu treth ar waredu i safleoedd tirlenwi yng Nghymru? OAQ(4)0537(FIN)

3. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddiwygio fformiwla Barnett? OAQ(4)0520(FIN)

4. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am arbedion effeithlonrwydd Llywodraeth Cymru yn y flwyddyn ariannol gyfredol? OAQ(4)0522(FIN)

5. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am atebolrwydd ariannol Llywodraeth Cymru? OAQ(4)0531(FIN)

6. Andrew RT Davies (Canol De Cymru):  Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda swyddogion Llywodraeth Cymru ynghylch cynnal refferendwm ar dreth incwm yng Nghymru? OAQ(4)0526(FIN)

7. Ann Jones (Dyffryn Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith gostyngiadau i'r grant bloc Cymru ar bobl yn Nyffryn Clwyd? OAQ(4)0535(FIN)

8. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru):Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o ffactorau cymaroldeb fformiwla Barnett? OAQ(4)0538(FIN)

9. Paul Davies (Preseli Sir Benfro):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer buddsoddi mewn seilwaith yng Nghymru? OAQ(4)0524(FIN)

10. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddatganoli'r dreth dirlenwi i Lywodraeth Cymru? OAQ(4)0521(FIN)

11. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gasglu trethi datganoledig arfaethedig? OAQ(4)0525(FIN)

12. David Rees (Aberafan): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr effaith y bwriedir i bolisïau caffael Llywodraeth Cymru ei chael ar arferion cyflogaeth mewn busnesau sy'n gweithio ar brosiectau a gaiff eu hariannu gan arian cyhoeddus? OAQ(4)0533(FIN)

13. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Beth yw goblygiadau ariannol y cytundeb Dydd Gŵyl Dewi i Gymru? OAQ(4)0534(FIN)

14. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru):Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i baratoi ar gyfer datganoli treth dir y doll stamp i Gymru? OAQ(4)0523(FIN)

15. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am brosiectau Llywodraeth Cymru a ariennir gan yr UE? OAQ(4)0532(FIN)

Gofyn i’r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

1. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru):Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i adolygu sut y mae awdurdodau lleol yn gweithredu ac yn monitro sut y caiff y gwasanaethau cyhoeddus eu cyflenwi? OAQ(4)0535(PS)

2. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda chyd-Weinidogion Cymru ynghylch gwasanaethau ar gyfer personél y Lluoedd Arfog yng Nghymru? OAQ(4)0532(PS)

3. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am drefniadau pensiwn ar gyfer diffoddwyr tân? OAQ(4)0531(PS)

4. Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gydag arweinwyr llywodraeth leol ynghylch defnyddio cronfeydd wrth gefn awdurdodau lleol? OAQ(4)0537(PS)

5. Gwenda Thomas (Castell-nedd):Pa gynnydd a wnaed o ran bwrw ymlaen ag argymhelliad y Comisiwn Williams ynglŷn â chreu un gweithrediad cydwasanaethau i ddarparu swyddogaethau cefn swyddfa ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru? OAQ(4)0547(PS)

6. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith ad-drefnu llywodraeth leol ar Bowys? OAQ(4)0538(PS)

7. Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus yng Nghaerdydd? OAQ(4)0546(PS)

8. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fformiwla ariannu awdurdodau lleol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus? OAQ(4)0533(PS)

9. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd):Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i weithio gyda dynion er mwyn lleihau nifer yr achosion o gam-drin domestig yng Nghymru? OAQ(4)0541(PS)

10. Aled Roberts (Gogledd Cymru):A wnaiff y Gweinidog amlinellu hyd a lled ei rôl fel pwynt cyswllt ar gyfer y Lluoedd Arfog a chyn-filwyr yng Nghymru ? OAQ(4)0545(PS)W

11. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus lleol yn ne-ddwyrain Cymru? OAQ(4)0540(PS)

12. Paul Davies (Preseli Sir Benfro):Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o gyfrifoldebau awdurdodau lleol yn y dyfodol, yn dilyn gweithredu argymhellion y Comisiwn Williams? OAQ(4)0536(PS)

13. Lynne Neagle (Torfaen): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus yn Nhorfaen? OAQ(4)0544(PS)

14. Christine Chapman (Cwm Cynon):A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ei gynlluniau i gryfhau democratiaeth leol yng Nghymru? OAQ(4)0539(PS)

15. William Graham (Dwyrain De Cymru):A wnaiff y Gweinidog gadarnhau'r trefniadau ar gyfer amseru etholiadau llywodraeth leol a drefnwyd ar gyfer Mai 2017? OAQ(4)0534(PS)

Gofyn i'r Cwnsler Cyffredinol

1. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa sylwadau cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi’u gwneud ar ran Llywodraeth Cymru mewn perthynas â’r model pwerau a gedwir yn ôl?OAQ(4)0074(CG)W

 

2. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Cwnsler Cyffrediniol wedi’u cynnal gyda swyddogion y gyfraith eraill ynghlŷn a’r model pwerau a gedwir yn ôl? OAQ(4)0075(CG)W